Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol
11 Tachwedd 2021
Cyfarfod ar-lein
Yn bresennol (cofnodir presenoldeb unigol yn hytrach na chysylltiad sefydliadol):
Sioned Williams AS - Cadeirydd
Mabon ap Gwynfor AS
Altaf Hussain AS
Andrew Jenkins
Simon Hoffman
Martin Jones
Kelly Stuart
Ross Thomas
Sean O'Neill
Gethin Rees
Nicola Evans
Charles Whitmore
Adele Rose Morgan
Zoe Rylands
Katie Palmer
Hannah Harvey
Rhian Davies
Rocio Cifuentes
Dragan Nastic
Rhian Thomas Turner
Nicola Evans
Paul Dear
Rhian Davies
Croesawodd y Cadeirydd bawb ac esboniodd mai'r cyfarfod hwn oedd cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol wedi’i adfer. Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn teimlo’n ddymunol adfer y Grŵp Trawsbleidiol o ystyried y sefyllfa bryderus ar hawliau dynol yn gyffredinol yn y DU a’r awydd i wneud cynnydd yng Nghymru gan ddefnyddio pwerau datganoledig.
Cyflwynodd Simon Hoffman ymchwil a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru ac adroddwyd arno ym mis Awst 2021 (Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru). Esboniodd brif ganfyddiadau'r gwaith ymchwil ac amlinellodd y prif argymhellion (gan nodi bod cyfanswm o 40 o argymhellion).
Trafododd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, a fynychwyd gan lawer o gynrychiolwyr o sefydliadau cymdeithas sifil sy'n gweithio ar flaen y gad o ran hawliau dynol, yr ymchwil a’i argymhellion.
Cytunodd pawb a oedd yn bresennol er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael ei hinswleiddio rhag bygythiadau posibl i ddiogelu hawliau dynol sy’n deillio o’r polisïau a’r ddeddfwriaeth sydd o dan reolaeth Llywodraeth y DU, y dylai Llywodraeth Cymru weithredu argymhellion ymchwil SAEHR mor gyflym â phosib.
Gofynnodd pawb a oedd yn bresennol i’r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at weithredu’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad SAEHR.
Bydd dyddiad y cyfarfod nesaf yn cael ei gytuno gyda'r Cadeirydd a'i ddosbarthu i aelodau o Grŵp Rhanddeiliaid Cymdeithas Sifil Cymru ar Hawliau Dynol a rhwydweithiau hawliau dynol eraill ac Aelodau o'r Senedd.